English | Welsh
">
Welcome To Cross Foxes
Welcome To Cross Foxes Welcome To Cross Foxes
Book to Cross Foxes
DO NOT EDIT ABOVE THIS TEXT

Cerdded Cadair Idris a’r cyffiniau

Mae parc cenedlaethol Eryri yn ardal drawiadol o fynyddoedd, traethau, coedwigoedd a llynnoedd, ac yn denu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn gyda’i wahanol atyniadau. Mae’r wlad yn nefoedd i gerddwyr gyda Chadair Idris gerllaw a’r Rhinogydd hefyd yn cynnig teithiau i’w copaon. Yn wahanol i 15 copa arall yng Nghymru, nid yw Cadair Idris yn cyrraedd 3,000 o droedfeddi, ond mae’n ail agos i’r Wyddfa o ran poblogrwydd. Mae’r Cross Foxes yn gyfleus yng nghesail Cadair Idris, felly yn ganolfan hwylus i gerdded y mynydd ac o’i gwmpas.
Walking

Darganfod Aber y Mawddach

Mae aber hyfryd yr afon Mawddach yn cysylltu Dolgellau a’r Bermo ar hyd llwybr 11km a arferai fod yn drac rheilffordd. Mae’r golygfeydd yn hyfryd a thrawiadol, ac mae’n ddelfrydol i wylio adar, i hwylio neu i bysgota.
Fishing


Beicio Mynydd

Yn ogystal â cherdded mae beicio mynydd yn hynod boblogaidd yn Nolgellau. Ychydig i’r gogledd o’r dre mae Coedwig Coed y Brenin, un o leoliadau mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer beicio gyda dros 100km o draciau trwy gymoedd a bryniau’r goedwig. Cycling

Golff

Mae’r ardal hefyd yn boblogaidd gyda chwaraerwyr golf. Mae Cwrs Aberdyfi – rhyw ½ awr i ffwrdd – yn gwrs 18 twll ac o safon pencampwriaeth ryngwladol. Rhyw 40 munud a byddwch yn Harlech, yng nghlwb Brenhinol Dewi Sant, sy’n enwog yn genedlaethol ac yn ryng-genedalethol am ei gwrs ac yn gartref i un o’r meysydd pencampwriaethol traddodiadol gorau yn y byd. Sefydlwyd dros 100 mlynedd nôl ac mae’n llawn hanes. Mae ei leoliad yn un o rannau mwyaf prydferth Cymru yn ei alluogi i groesawi achlysuron amatur a phroffesiynol o safon byd. Mae cyrsiau golf ar gael hefyd yn agosach i’r Cross Foxes, sef yn Nolgellau a Machynlleth.

Cysylltiadau defnyddiol arall - Equestrian

Chwaraeon Dŵr

Mae’r Cross Foxes rhyw 30 munud i ffwrdd o dref y Bala, sy’n le arebennig am chwaraeon dŵr. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth byd-eang fel canolfan, yn arbennig am ganŵio a rafftio ar ddŵr gwyn afon Tryweryn, ac am hwylio neu syrffio gwynt ar Lyn Tegid. Mae nifer o siopau, tafarnau a bwytai diddorol yno, a Thaith gerrded Hanesyddol o gwmpas y dref.
Watersports

Gweithgareddau Diwylliannol

Heritage

Trefi’r Ardal

Dolgellau

Saif y Cross Foxes o fewn darn deheuol Parc Cenedlaethol Eryri, a 4 milltr i’r de o dref Dolgellau. Mae’n dref farchnad Gymreig sy’n ddyledus am ei harddwch cadarn i’r cyfoeth a grewyd gan y fasnach wlân yn y 19fed ganrif. Mae ynddi dros 200 o adeiladau rhestredig, y crynhoad uchaf ung Nghymru. Mae’r dref yn llawn swyn gyda’i adeiladau llwyd o gerrig mawrion, a’i strydoedd cul yn cysyllti’r gwahanol feysydd.

Harlech

Mewn 40 munud byddwch yn nhref hanesyddol Harlech, ar safle castell mawreddog a ddynodwyd yn safle Treftadaeth Byd-eang.

Tywyn

Mewn 30 munud byddwch yn Nhywyn. Yma mae Rheilffordd Tal-y-Llyn yn cychwyn, honon teithio 7 milltr trwy ardaloedd gwledig hardd.

Machynlleth

Tua 9 milltr i’r de o’r Cross Foxes mae tref farchnad Machynlleth – hon yn ffalch o’i thras ac o fod yn brif ddinas ac yn gartref i senedd gyntaf Cymru yn 1404 o dan Owain Glyndŵr. Mae’r brif stryd lydan yn cynnal marchnad agored ers iddi gael siarter i wneud hynny yn 1291. Yn y stryd hon hefyd, sef Maengwyn, mae safle’r senedd gyntaf, ond adeilad arall o’r 15 canryf sydd yno nawr. Mae ar agor o fis Mawrth tan ddiwedd yr haf. Mae’r farchnad bob dydd Mercher yn denu pobl o bell gydag amrywiaeth o fasnachwyr a chrefftwyr. Mae carnifal flynyddol ym mis Gorfennaf a gŵyl Owain Glyndŵr ym mis Medi. Atynfa arall gerllaw yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, sy’n dangos y gwahanol sustemau gwyrdd a chynaladwy. Hefyd mae Ffwrnais Ddyfi, ffwrnes sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ynghyd â’r olwyn ddŵr. Arferai losgi golesg.

Yr Arfordir

Aberdyfi

Mewn 40 munud gallwch fod yn Aberdyfi, pentref glan-môr tawel ar ochr ogleddol yr afon Ddyfi. Mae wedi body yn boblogaidd ers blynyddoedd oherwydd ei harbwr bach deniadol. Yma mae’r afon Ddyfi yn cwrdd â môr Bae Ceredigion, ac mae’n le delfrydol i rai sy’n hoffi tipyn o antur ar y dŵr – hwylio, hwyl-fyrddio, pysgota, tripiau cychod a’r regatta yn yr haf.

Y Bermo

Mae taith 15 munud i’r gogledd o’r Cross Foxes yn dod â chi i’r Bermo, sy’n gorwedd rhwng y mynyddoedd a’r môr, ar aber yr afon Mawddach. Mae hon yn dref ar safle gyda’r harddaf yng Nghymru, wedi ei thrwytho mewn hanes cyfoethog y diwydiannau morwrol a llechi.

Mae’n werth ymweld â’r hen dref gyda’i grisiau serth a’r bythynnod tô llechi ar ochr y mynydd. Mae’r harbwr yn brydferth a gallwch gerdded ar draws Pont y Bermo, dros yr afon – tro delfrydol gyda’r nos.

Mae’r traeth yn fawr ac yn berffaith ar gyfer torheulo neu chwaraeon, a gwelir syrffwyr yn aml, yn dibynnu ar y tonnau ac amswer y flwyddyn wrth gwrs. Mae’r traeth yn boblogaidd gyda’r plant, ond yn ddigon mawr i ddianc ac ynlacio mewn man tawel os fydd eisiau. Mae yma amrywiaeth o siopau, tafarnau a gwestai a hefyd ffair ac arcêd o ddifyrion “arian yn y slot”, rhwng Mawrth a Hydref.

Y Bermo yw man cychwyn râs y Tri Chopa sy’n golygu hwylio i Fort William (389 milltr), dringo’r tri chopa uchaf ym mhrydain – Ben Newis, Scafell Pike a’r Wyddfa (11,000 tr o ddringo) a rhedeg 72 milltr rhyngddynt.
 

Cultural

Pethau eraill i’w gweld a’u gwneud

Trênau Stêm

Mae ardal Eryri yn hyrwyddo lein gul Ffestiniog sy’n rhedeg o fynyddoedd Blaenau Ffestiniog i Borthmadog ar yr arfordir, sy’n agos i bentref Eidalaidd Clough Williams-Ellis, sy’n werth ei weld.

Gerllaw hefyd mae dyffryn hardd Dysynni gyda Castell-y-Bere mewn man unig ac urddasol – adfeilion castell o’r 13 ganrif a godwyd gan un o dywysogion Cymru, sef Llywelyn Fawr.

Canolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur

Mae’r Cross Foxes ond 10 munud i ffwrdd o’r ganolfan hon. Yma mae deg o grefftwyr talentog yn cynhyrchu ystod eang o grefftwaith unigryw, o’r traddodiadol i’r cyfoes. Gall ymwelwyr weld y crefftwyr wrth eu gwaith a phrynu yn uniongyrchol oddi wrthynt. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys Labyrinth y Brenin Arthur lle gall ymwelwyr gael trip mewn cwch i berfeddion y creigiau a gwrando ar straeon am y Brenin Arthur a hen Chwedlau Cymreig eraill.